8 Awst 2017

John Griffiths AC                                                                           

Cadeirydd, Pwyllgor ELGC

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA.

 

Pwnc: Hawliau Dynol yng Nghymru

 

Annwyl John,

Pleser oedd eich gweld yn ddiweddar yn ein trafodaeth gyda rhanddeiliaid ynglŷn â blaenoriaethau hawliau dynol yng Nghymru.  

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymrwymiad y Comisiwn i weithio ar y cyd ag eraill i lunio cynllun gweithredu hawliau dynol yng Nghymru. Blaenoriaeth y cynllun gweithredu hwn yw ymwreiddio egwyddorion hawliau dynol ym maes cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn disgwyl gallu rhannu’r cynllun gweithredu hwn gyda’ch Pwyllgor yn ystod y misoedd i ddod, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd eich cefnogaeth wrth lunio a hybu’r cynllun. 

Roeddem hefyd am roi’r newyddion diweddaraf i chi ar drafodaethau a gynhaliom ers ein sesiwn tystiolaeth lafar gyda’r Pwyllgor ym mis Ebrill. Yn y sesiwn honno, ymgymerodd Cadeirydd ein Pwyllgor Cymru, June Milligan, â thrafodaeth gyda Phwyllgor Cymru ynglŷn â’n rôl wrth hybu hawliau dynol mewn lleoliadau addysg yng Nghymru. Bu Pwyllgor Cymru’n trafod y mater hwn yn ei gyfarfod yn ddiweddar. 

Mae Pwyllgor Cymru o’r farn bod gennym yr effaith fwyaf wrth inni weithio mewn partneriaeth ag eraill, megis Comisiynydd Plant Cymru. Er enghraifft, rydym wedi nodi cyfleoedd i weithio ar y cyd gyda’r Comisiynydd Plant ar fwlio

ar sail hunaniaeth. Mae hyn wedi cynnwys darparu cyngor ar sut i gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn argymhellion eu hadroddiad diweddar ‘Stori Sam: gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru’.

Byddwn yn cyfarfod eto â’r Comisiynydd Plant i drafod sut y gallwn chwarae ein rhan wrth hyrwyddo Y Ffordd Gywir: Dull gweithredu  seiliedig ar Hawliau Plant i addysg yng Nghymru. Mae’r canllaw hwn, a lansiwyd yn ddiweddar gan y Comisiynydd Plant, yn ymwneud â gosod y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i brofiad addysg y plentyn ac i gynlluniau ysgolion, y dysgu, wrth wneud penderfyniadau, llunio polisiau a’r arfer. Drwy weithio gyda’r Comisiynydd Plant byddwn yn gallu mynd i’r afael â rhai pryderon a gododd eich Pwyllgor. Rydym hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddi ddyfeisio cwricwlwm newydd i Gymru, sydd i fod ar gael erbyn mis Medi 2018. Byddwn yn parhau i ddadlau’r achos y dylai hawliau plant fod yn ganolog i’r cwricwlwm yng Nghymru. 

At hynny, yn ein rôl fel y Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol i Brydain, bydd y Comisiwn yn cyflwyno cyflawniadau i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn ynglŷn â sut y caiff hawliau plant eu hybu yng Nghymru a ledled Prydain. Rydym yn flaenorol wedi amlygu rhan hollbwysig addysg wrth hyrwyddo hawliau’r plentyn. Bydd cyflwyniad â’r wybodaeth ddiweddaraf yr ydym yn ei anfon i Bwyllgor y CU yn ddiweddarach eleni yn ail bwysleisio’r pwynt hwn. 

Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’ch Pwyllgor pan fydd eich Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru yn ail gychwyn yn yr Hydref. Bydd eich canfyddiadau a’ch argymhellion yn hanfodol wrth helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer hawliau dynol yng Nghymru. Os bydd ein cynllun gweithredu ac argymhellion eich Ymchwiliad yn ategu ei gilydd, bydd hynny’n werthfawr iawn. 

 

 

 

 

Yn olaf, yn dilyn fy mhenodiad diweddar fel Pennaeth Cymru yn y Comisiwn yng Nghymru,  byddwn yn croesawu’r cyfle i gwrdd â chi i drafod yr Ymchwiliad Hawliau Dynol a ffyrdd eraill y gall y Comisiwn ddarparu cyngor i’r Pwyllgor. Gwnaf gysylltu â’ch swyddfa i weld a ellir dod o hyd i ddyddiad dros doriad yr haf neu yn y tymor newydd. 

 

Yr eiddoch yn ddiffuant,

Ruth Coombs

Pennaeth Cymru,

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.